Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Mawrth 2020
Amser:
Times
Not Specified
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5923
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Hefin David AC Suzy Davies AC Janet Finch-Saunders AC Helen Mary Jones AC (yn lle Siân Gwenllian AC) |
Tystion: |
Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg Steve Davies, Llywodraeth Cymru Rob Orford, Llywodraeth Cymru Huw Morris, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Tanwen Summers (Ail Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, cafwyd ymddiheuriadau gan Siân Gwenllian AC, a dirprwyodd Helen Mary Jones AC ar ei rhan.
1.2 Ymunodd Janet Finch-Saunders â'r cyfarfod drwy fideo-gynadledda.
1.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A datganodd Lynne Neagle AC y byddai ei mab yn sefyll ei arholiadau Safon Uwch yn yr haf. Datganodd Hefin David AC ei fod yn rhiant i blentyn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
2.1 Trafododd yr Aelodau covid-19 gyda'r Gweinidog.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y materion a ganlyn:
Sut y byddai’r cymhwyster Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu yn cael ei asesu a,
Diweddariad ar y broses ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sy'n aros am atgyfeiriadau.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn gyda’r Gweinidog Addysg.